Skip navigation|
HOME    |    DONATE    |    SPONSOR A CHILD   
|   SEARCH
 • Volunteer
 • International Help
   › Welkom
   › Välkommet
   › Benvenuti
   › ترحيب
   › Croeso i wefan
   › Bienvenue
   › Willkommen
   › Spanish
   › Nepali
 
 • Charity search engine
 

Croeso i wefan

Eusen fach ydym ni, wedi'i lleoli yn y DU a'r Himalaya, ond a nifer fawr o gefnogwyr rhyngwladol, gan gynnwys llawer o Gymru. Oherwydd hyn, rydym ni eisiau bod mor groesawgar ichi a phosib, ac rydym ni wedi creu'r esboniad bach hwn yn Gymraeg fel y medrwn ddangos ein gwerthfawrogiad a'n parodrwydd i weithio gyda chefnogwyr o Gymru ac o Ewrop.

Mae gan 'Himalayan Learning' lawer o brosiectau ar y gweill, yr un mwyaf poblogaidd yw noddi plant yn yr Himalaya. Nepal yw'r chweched wlad dlotaf yn y byd a chanddi gyflog cyfartalog i oedolion o tua 65c y dydd, ac mae pob un o'n prosiectau'n ymdroi o gwmpas helpu pobl i'w helpu eu hunain. Mae Nawdd yn effeithlon iawn. Mae'n costio tua £20 inni i roi plentyn yn yr ysgol am un flwyddyn. Mae gan bob plentyn anghenion gwahanol, ond dyma'r gost ar gyfartaledd inni. Mae hyn yn rhad achos rydyn ni'n gweithio ar lawr gwlad, mae pob un o'n gwirfoddolwyr yn rhieni ac yn bobl leol, sy'n defnyddio eu doniau a gwybodaeth leol a grym i wneud y gorau o'r rhodd. Mae pob rhodd rydyn ni'n ei derbyn yn mynd 100% ar y prosiect yr ydych chi'n ei ddewis, does dim byd yn cael ei wario ar weinyddiaeth, gallwch chi fod yn siŵr bod eich rhodd yn mynd yn gyfan gwbl i'r defnydd gorau posib. Mae ein cyfathrebu a chefnogwyr rhyngwladol yn cael ei wneud yn gyfan gwbl ar-lein. Rydym ni'n rhoi gofod rhoddwr diogel ichi, lle gallwch chi logio i mewn i weld manylion eich plentyn, ei fywyd a'i ysgol. Rydych chi'n cael prynu anrhegion masnach deg yr ydym ni'n eu prynu'n lleol i'ch plentyn chi, mae hyn yn rhoi hwb i fusnesau a mentrau cymdeithasol lleol (o ddwy bunt yn unig). Yn olaf, rydym ni'n elusen gyfreithlon sy'n gofrestredig gyda llywodraeth y DU, a'n rhif cofrestru yw 1103105. Edrychwch o gwmpas ein gwefan ar ein prosiectau gwahanol yn ogystal a phrosiectau noddi. Does dim canolfannau galw gyda ni os oes rhywbeth yr hoffech chi ei holi, rydym ni'n gweithio yn Nepal ac yn Ewrop, ni sy'n rhedeg y prosiectau, ac rydyn ni'n siarad a chi, ein cefnogwyr, yn uniongyrchol! [With thanks to Julie Brake for the translation]


Supporter's comments


 
› Back to the top
Share on Facebook
HL Projects
HL Nepal Film
We've produced a short Himalayan film featuring Nepal documentary footage on the struggles of children in the Himalaya and how we help them with your More

 › More HL projects 
HL News
An image relating toSchool Gets New Roof
School Gets New Roof
7th February
Jaladevi primary school has now got a roof over its new classrooms (sorry for the poor photo!)... More

An image relating toGardens for Children
Gardens for Children
21st November
.. More

An image relating toBuilding a New School
Building a New School
20th June
Thanks to all our kind donors, we raised a little bit more money than was required for our original plans for Jaladevi School. Now, instead of.. [+Film] More

 › More HL news 
© Himalayan Learning 2012 • Registered Charity 1103105 • SitemapContact usInternational supporters • Website developed by HighHorse
Choose an alternative language: Arabic·Chinese·Dutch·English·French·German·Greek·Italian·Japanese·Korean·Nepali·Portuguese·Russian·Spanish